CANLLAW I GLEIFION

CYFLWYNIAD

Croeso i Iechyd Teifi, clinig preifat sydd wedi’i leoli yng nghanol tref Castell Newydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin. Fe ddewch o hyd i faes parcio eang yng nghefn yr adeilad sy’n edrych dros yr afon Teifi.

Y tu fewn, fe gewch chi groeso cynnes gan ein tîm o staff cyfeillgar a fydd yn barod i’ch cynorthwyo yn ystod eich ymweliad. Mae gennym ddarpariaeth lawn er mwyn cynorthwyo gydag unrhyw anableddau, ond gofynnwn i chi ein hysbysu o unrhyw anghenion arbennig wrth i chi wneud eich apwyntiad.

Ein nod yn Iechyd Teifi yw darparu profiad cyfeillgar a chysurlon gyda iechyd a lles ein cleifion yn flaenoriaeth bob amser.


EIN TîM

Mae gan ein tîm sy’n cael ei arwain gan Dr Beth Howells, gyfoeth o brofiad a gwybodaeth wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel. Mae pob aelod o staff wedi gweithio yn y GIG yn y gorffennol. Rydym i gyd wedi ein hymrwymo i sicrhau bod yr ansawdd gorau o ofal yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd cyfleus, cyfrinachol a gofalgar. Ymfalchiwn fod pob aelod o’r tîm yn ddwyieithog.

Ymgorfforwyd Iechyd Teifi ym mis Awst 2023
Cyfarwyddwyr: Dr Beth Howells, Mr Rhodri Howells

Ysgrifenyddes y cwmni : Mrs Rhian James

Darparwr Cofrestredig – Dr Beth Howells MB BCh
Iechyd Teifi Health
Heol yr Orsaf
Castell Newydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9BX

Cymhwysodd Dr Howells o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, Caerdydd yn 2001. Ar ôl cwblhau hyfforddiant Meddyg Teulu symudodd i Sir Gaerfyrddin a threuliodd 18 mlynedd fel Meddyg Teulu a phartner yn Llandysul. Mae Dr Howells hefyd wedi bod yn arfarnwr meddyg teulu.

Rheolwr Cofrestredig – Mrs Rhian James BA
Iechyd Teifi Health
Heol yr Orsaf
Castell Newydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9BX

Cafodd Rhian James ei chyflogi yn flaenorol fel rheolwr Practis mewn meddygfa leol.

Mae ein tîm yn cynnwys Uwch Ymarferydd Nyrsio, Nyrs Practis, Cynorthwyydd Gofal Iechyd a staff gweinyddol.


EIN NOD A’N HAMCANION

Nod Iechyd Teifi Health yw darparu gwasanaethau meddygol gofal sylfaenol preifat o ansawdd uchel yn seiliedig ar ymchwil ar sail tystiolaeth a chanllawiau clinigol cydnabyddedig.

Byddwn bob amser yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol at asesu a rheoli problemau meddygol ac yn anelu at feithrin perthynas barchus gyda'n cleifion, lle mae eu pryderon a'u disgwyliadau wrth wraidd ein hasesiadau iechyd cynhwysfawr.

Rhoddir gwybodaeth fanwl i'r cleifion am ein gwasanaethau a’n triniaethau er mwyn iddynt wneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym yn monitro perfformiad yn barhaus drwy gasglu adborth cleifion ac mae gennym hefyd weithdrefn gwyno gynhwysfawr i hwyluso gwella ansawdd.

Ein nod yw ategu’r gwasanaethau gofal sylfaenol presennol a gynigir gan feddygon teulu’r Gwasanaeth Iechyd , drwy ehangu dewis a mynediad at ystod o wasanaethau. Fe fydd ein cleifion yn cael eu cynghori i gadw eu cofrestriad gyda'u Meddyg Teulu presennol, gan na fyddwn yn cynnig gofal brys y tu allan i oriau agor.


GWASANAETHAU

Mae ein hystod o wasanaethau a thriniaethau yn cael eu darparu gan glinigwyr hynod gymwys a phrofiadol o fewn amgylchedd modern, croesawgar.

Rydym bob amser yn trin ein cleifion ag urddas a pharch a bydd eich cyfrinachedd a'ch preifatrwydd yn cael eu parchu bob amser.


TELERAU AC AMODAU

Oriau Agor
Dydd Llun 9-5 yp
Dydd Mawrth 9-6yp
Dydd Mercher 9-5 yp
Dydd Iau 9-6 yp
Dydd Gwener 9-4yp

Sylwch nad yw Iechyd Teifi Health yn darparu gwasanaethau brys y tu allan i'r oriau agor hyn. Felly, rydym yn argymell bod pob claf yn cadw ei gofrestriad gyda'i feddygfa GIG.

Gwneud apwyntiadau
Gellir gwneud apwyntiadau ar-lein neu dros y ffôn. Anfonir cadarnhad trwy neges destun a/neu e-bost gyda chaniatâd y claf.

Atgyfeiriadau
Os bydd claf angen atgyfeiriad at wasanaeth arbenigol, bydd ein clinigwyr yn esbonio’r rhesymau a’r opsiynau ar gyfer hwyluso’r atgyfeiriad a bydd cymorth ac arweiniad yn cael eu darparu drwy gydol y broses.

Taliad
Mae rhestr lawn o ffioedd ein holl wasanaethau ar gael ar ein gwefan, https://www.teifihealth.co.uk

Os bydd angen unrhyw wasanaethau ychwanegol yn dilyn ymgynghoriad cychwynnol, bydd y claf yn cael gwybod am unrhyw gostau ychwanegol. Dim ond gyda chaniatâd gwybodus llawn y claf y bydd gwasanaethau o'r fath yn cael eu darparu.

Rydym yn derbyn cerdyn Credyd/Debyd, BACS a thaliad arian parod


CYFRINACHEDD

Mae angen i'r clinig gasglu gwybodaeth bersonol am bobl y mae'n delio â nhw er mwyn cyflawni ei fusnes a darparu ei wasanaethau

Mae trin gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon a phriodol yn hynod o bwysig i Iechyd Teifi Health ac i lwyddiant ein busnes, er mwyn cynnal hyder ein defnyddwyr gwasanaeth a’n gweithwyr. Rydym yn sicrhau bod y clinig yn trin gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon ac yn gywir.

Rydym yn cefnogi ac yn cydymffurfio’n llawn ag egwyddorion y Ddeddf a grynhoir isod:

  • Bydd data personol yn cael ei brosesu'n deg ac yn gyfreithlon.
  • Bydd data personol yn cael ei gasglu/prosesu at ddibenion cyfreithlon penodol a dim ond at y diben y'i casglwyd y caiff ei ddefnyddio.
  • Rhaid i ddata personol a gedwir fod yn ddigonol, yn berthnasol a heb fod yn ormodol.
  • Rhaid i ddata personol fod yn gywir ac yn gyfredol, a chymerir pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw ddata personol sy'n anghywir yn cael ei ddileu neu ei gywiro yn ddi-oed.
  • Ni chaiff data personol ei gadw am fwy o amser nag sydd angen.
  • Bydd data personol yn cael ei brosesu mewn modd sy'n sicrhau diogelwch priodol y data personol hwnnw.

Mae Iechyd Teifi Health wedi ei gofrestru gyda Chomisiynydd Gwybodaeth Cymru a Lloegr

Swyddog Diogelu Data Iechyd Teifi Health yw Dr Beth Howells


POLISI CWYNION

Rydym yn cymryd pob cwyn o ddifrif. Os ydych yn anfodlon am unrhyw reswm gyda'r gwasanaeth neu'r driniaeth a ddarperir gan Iechyd Teifi Health, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ymchwilio a mynd i'r afael â'ch cwyn cyn gynted â phosibl. Os hoffech wneud cwyn ffurfiol, dilynwch y camau hyn:

1. Gobeithiwn y gellir datrys y rhan fwyaf o broblemau'n hawdd ac yn gyflym, yn aml ar yr adeg y maent yn codi a gyda'r person dan sylw. Fodd bynnag, os na allwch ddatrys y mater yn anffurfiol, ysgrifennwch at y rheolwr, Mrs Rhian James, neu'n uniongyrchol at y clinigwr dan sylw. Yn eich llythyr dylech nodi eich cwyn mor fanwl â phosibl.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith ac yn anelu at fod wedi ymchwilio i'ch cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith i'r dyddiad y gwnaethoch ei chodi gyda ni. Yna byddwn mewn sefyllfa i gynnig esboniad i chi, neu gyfarfod â'r bobl dan sylw. Pan fyddwn yn ymchwilio i’ch cwyn, byddwn yn anelu at:

  • Darganfod beth ddigwyddodd a beth aeth o'i le.
  • Gwneud hi'n bosibl i chi drafod y broblem gyda'r rhai dan sylw, os hoffech chi hyn.
  • Sicrhau eich bod yn derbyn ymddiheuriad, lle bo hynny'n briodol.
  • Nodi'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw'r broblem yn digwydd eto.

Mae ein manylion cyswllt ar gael ar y rhan Cysylltu â Ni o Wefan Iechyd Iechyd Teifi.

2. Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb cychwynnol i'r gŵyn, gallwch ysgrifennu at Reolwr Iechyd Teifi Health a gofyn am i'ch cwyn ac i'r ymateb gael ei adolygu. Gallwch ddisgwyl i'r Rheolwr gydnabod eich cais o fewn 2 ddiwrnod gwaith o'i dderbyn ac ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.

Ein nod yw datrys pob mater cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd rhai materion yn fwy cymhleth ac felly efallai y bydd angen mwy o amser i gael eu hymchwilio'n llawn. Os oes angen ymchwiliad manylach i fater, byddwch yn cael ymateb interim yn disgrifio’r hyn sy’n cael ei wneud i ymdrin â’r mater, a phryd y gellir disgwyl ateb llawn a gan bwy.

Cam Olaf
Os nad ydych yn fodlon ar yr ateb gan Reolwr Iechyd Teifi Health, yna mae gennych yr opsiwn i geisio dyfarniad annibynnol gan Wasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol (ISCAS).

Mae’r cam hwn yn unig ar gael i achwynwyr sy’n parhau i fod yn anfodlon ar ôl i Gam 1 a Cham 2 ddod i ben.

Dylai achwynydd wedyn ofyn am y Dyfarniad drwy ysgrifennu at yr Ysgrifenyddiaeth:
Independent Sector Complaints Adjudication Service
Centre Point
103 New Oxford Street
London
WC1A 1DU

Rhaid i'r cais ysgrifenedig hwn am ddyfarniad gael ei wneud o fewn pum niwrnod ar hugain i'r penderfyniad terfynol gan Iechyd Teifi Health yng Ngham 2. Dylai'r achwynydd yng Ngham 3 roi rhesymau i egluro'r anfodlonrwydd â chanlyniad Cam 2. Bydd Ysgrifenyddiaeth ISCAS yn ceisio cadarnhad gan Iechyd Teifi Health bod Cam 2 wedi'i gwblhau.

Bydd Ysgrifenyddiaeth ISCAS yn hysbysu Iechyd Teifi Health o gais am Gam 3 a wneir yn uniongyrchol o fewn deg diwrnod. Yr Ysgrifenyddiaeth wedyn fydd y prif gyswllt ar gyfer yr achwynydd unwaith y bydd y Dyfarniad wedi dechrau. Gofynnir i achwynydd sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn gydsynio i ryddhau cofnodion gan Iechyd Teifi Health sy'n berthnasol i'r gŵyn a chyflwynir adroddiad i'r achwynydd ac i Iechyd Teifi Health.

Mae gwybodaeth ychwanegol i gleifion am ISCAS ar gael yn:

https://iscas.cedr.com/patients/complaints-process/

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Mae'n ofynnol i rai gwasanaethau gofal iechyd gael eu cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) sy'n rheoleiddio Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghymru. Nid yw AGIC yn ymchwilio i gwynion ond mae'n ystyried gwybodaeth berthnasol am arfer sy'n darparu gweithgareddau rheoleiddiedig o fewn telerau'r ddeddfwriaeth. Gellir cysylltu â nhw yn:

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Adeiladau'r Llywodraeth
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Gwefannau Perthnasol:
Iechyd Teifi Health: www.teifihealth.co.uk

Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol: www.iscas.cedr.com

Arolygiaeth Iechyd Cymru: www.hiw.org.uk